GWRANDAWIAD PELL GYDA CHYFIEITHYDD IAITH CYMRAEG


Christopher McNall recently finished five days appearing as counsel in what may be the first trial in the High Court in Wales, conducted remotely, to use Welsh. // Rwyf newydd orffen pum niwrnod yn ymddangos fel cwnsler yn yr hyn a allai fod y treial cyntaf yn yr Uchel Lys yng Nghymru a gynhelir o bell i ddefnyddio’r iaith Gymraeg.

To read this article in English, click here.

Nid oedd y treial yn hollol ‘anghysbell’. Roedd fy nghleient – ffermwr mynydd Cymraeg ei iaith heb gysylltiad gwe band-eang dibynadwy – yn adeilad llys Wrecsam, ynghyd â’m cyfreithiwr cyfarwyddo*, a chyfieithydd ar y pryd: i gyd yn cadw pellter cymdeithasol, wrth gwrs. Roedd pawb arall gartref, neu yn swyddfeydd eu cyfreithiwyr.

Ers 1993, caiff unrhyw barti, tyst neu berson arall (yn amodol ar rybudd ymlaen llaw) ddefnyddio’r Gymraeg yn y llysoedd yng Nghymru, a rhaid gwneud unrhyw ddarpariaeth angenrheidiol ar gyfer cyfiethu yn unol â hynny (Ddeddf Iaith Cymraeg 1993, Adran 22). Trefnwyd y cyfiethiad gan HMCTS/GLTEM. Roedd y cyfieithydd a benodwyd gan y llys yn ffigwr diwylliedig adnabyddus yng Nghymru – bardd a oedd yn enwog am ei englynion, ac yn wir yn gyn-enillydd Coron yr Eisteddfod.

Yr wythnos cyn y gwrandawiad, cynhaliom (dros y ffôn) Gynhadledd Rheoli Achos (CMC) gerbron barnwr y treial (Ei Anrhydedd Barnwr Keyser CF). Roedd hynny’n ddefnyddiol i fynd i’r afael a’r trefniadau ymarferol. Fe ddefnyddion ni Blatfform Fideo Cloud (CVP) a weithiodd yn dda. Roedd y trefniant o sgrin wedi’i chwarteru – gyda’r Barnwr, y ddau Gwnsler a’r tyst – wedi gweithio’n ardderchog. Ond cofiwch y bydd angen Beibl neu Lyfr Sanctaidd ar unrhyw dystion anghysbell wrth law os ydyn nhw’n mynd i roi tystiolaeth ar lw!

Nid oedd gwrando ar, neu groesholi, wrth eistedd yn fy ystafell fwyta fy hun yn brofiad mor rhyfedd ag yr oeddwn wedi meddwl y gallai fod. Mewn gwirionedd, a mewn rhai ffyrdd, roedd yn brofiad mwy esmwyth hyd un oed nag ‘wyneb yn wyneb’ yn y Llys. Yn fy marn i, ni effeithiwyd ar ansawdd y dystiolaeth o gwbl – ac efallai ei fod hyd yn oed wedi bod yn well.

Dechreuodd y dystiolaeth gyda chyfieithu ar y pryd (simultaneous), ond gallem glywed y tyst a’r cyfieithydd ar yr un meicroffon, felly gwnaethom symud i gyfieithu dilyniannol (sequential). Gweithiodd yn dda.

Erbyn hyn, rydw i’n adwaenu’n gadarn y ffordd newydd hon o weithio. Tybed rwân pam y byddwn ni eisiau mynd yn ôl i’r hen ffyrdd o weithio? Os gellir cynnal – yn deg ac yn gyfiawn – treial mater a gwerth sylweddol ariannol yn yr Uchel Lys sy’n cynnwys tystiolaeth lafar o bell – pam newid?

Mae hwn yn fater penodol yng Nghymru lle nad oes llawer o ganolfannau llys yn yr Uchel Lys, ac maent yn cynnwys teithio pellteroedd hir i’r holl gyfranogwyr (a hyd yn oed yn hirach i’r rhai ohonom sy’n byw dros Glawdd Offa).

*Cefais fy nghyfarwyddo gan Osian Roberts o Guthrie Jones a Jones, Dinbych.


Christopher McNall specialises in disputes about tenanted and freehold farms and land (and especially agricultural tenancies under the Agricultural Holdings Act 1986), taxation (especially of agricultural land), proprietary estoppel, and inheritance.

He has appeared in many leading agricultural and tax cases in the Court of Appeal, the High Court, the Agricultural Lands Tribunal, and the First-tier Tribunal. He is Chairperson of the Agricultural Lands Tribunal for Wales, a Deputy District Judge, and a fee-paid Judge of the Tax and Property Chambers of the First-tier Tribunal.

Christopher was Consultant Editor for the ‘Agricultural Holdings and Allotments’ title in the 2018 edition of Halsbury’s Laws of England and writes the ‘View from the Bar’ column for the Agricultural and Rural Affairs section of Practical Law. His book, ‘A Practical Guide to Agricultural Law and Tenancies’, was published recently.

For more information on Christopher McNall please contact a member of our Business and Property Clerking Team on 0161 278 8261 or email businessproperty@18sjs.com